Text Box: Huw Irranca-Davies AC
 Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

30 Ionawr 2017

Ymchwiliad i ddysgu rhyng-sefydliadol

Annwyl Huw

Diolch am eich llythyr yn rhoi gwybod i'r Pwyllgor am eich ymchwiliad i gysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cymru a'r DU.

Yn sgil eich llythyr, trafododd y Pwyllgor y mater hwn yn ei gyfarfod ar 25 Ionawr. Ein barn ni yw bod trefniadau cadarn ar gyfer gwaith rhyng-seneddol a chysylltiadau rhwng Pwyllgorau Seneddol yn hanfodol ar gyfer gwneud gwaith craffu effeithiol, a hefyd yn gallu hwyluso'r broses o gyfnewid syniadau a gwella'r broses o ddysgu am bolisïau. O ran cylch gwaith ein Pwyllgor ni, mae hyn yn arbennig o wir, er enghraifft mewn perthynas â materion trawsffiniol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Rydym hefyd o'r farn bod lle i wella o ran y ffordd y mae adrannau Llywodraeth y DU yn cydweithio â phwyllgorau'r Cynulliad mewn perthynas â chraffu ar faterion polisi lle ceir gorgyffwrdd rhwng meysydd datganoledig a meysydd nad ydynt wedi'u datganoli. Mae'n ymddangos bod y math hwn o gydweithio yn aml yn cael ei ysgogi gan weithgarwch Gweinidog neu was sifil unigol yn hytrach na dealltwriaeth gydnabyddedig bod y math hwn o gydweithio yn hanfodol a bod ganddo'r potensial i fod o fudd i bawb sy'n ymwneud â'r materion o dan sylw.

Rydym yn deall, er enghraifft, fod y Pwyllgor blaenorol wedi wynebu heriau wrth geisio ymgysylltu â Gweinidog a swyddogion perthnasol y Swyddfa Gartref yn ystod ei ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd, a hynny mewn perthynas â rhai meysydd polisi nad ydynt wedi'u datganoli ond a oedd yn uniongyrchol berthnasol i'r ymchwiliad. Cafodd mater hwnnw ei ddatrys yn y pen draw, gyda thystiolaeth lafar ac ysgrifenedig yn dod i law—ond dim ond yn dilyn ymdrechion di-ri i ymgysylltu gan staff y Pwyllgor a gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor bryd hynny.

Rydym yn croesawu ymchwiliad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i'r mater pwysig hwn, ac rydym yn edrych ymlaen at glywed eich casgliadau maes o law.

Yn gywir

Dr Dai Lloyd AC

Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon